Ychydig yn hwyrach na’r arfer, dyma groesawu podlediad Clera mis Ebrill i’r gorlan! Mae’r podlediad, fel arfer, ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Yr awdl yw testun trafod y Pwnco ar gyfer y mis hwn – beth yw awdl, pa ddyfodol sy i’r awdl, ac ai cerdd eisteddfodol yw hi’n unig? Os ie, pa ots? Fe ges i a Nei fodd i fyw yn trafod, ac fe gawson hefyd ni gyfraniad arbennig i’r sgwrs gan y prifardd Tudur Dylan Jones. Mae’r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys cerdd gan Iestyn Tyne, sgwrs â Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac adroddiad arbennig o recordiad diweddar o Dalwrn y Beirdd BBC Radio Cymru. Hyn oll a llawer, llawer mwy!
1. Pwnco: sgwrs am yr awdl fel ffurf, gyda chyfraniad gan y prifardd Tudur Dylan Jones 2. 26.34 Pos rhif 2 gan Gruffudd a’i Ymennydd Miniog 3. 29.00 Yr Orffwysfa: cerdd ‘Derbyn’ gan Iestyn Tyne 4. 30.57 Sgwrs gyda Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn 5. 43.30 Eitem a recordiwyd yn Neuadd Pantycelyn yn un o rowndiau cyntaf Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, yn cynnwys sgwrs gydag aelodau tîm newydd y Llew Du a’r meuryn ei hun, Ceri Wyn Jones (mae’r cerddi i gyd ar gael fan hyn) 6. 50.50 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! gyda’n gwestai arbennig, Iestyn Tyne 7. 01.05.27 Y Newyddion Heddiw – See more at: http://www.eurig.cymru/blog#sthash.SBJfYNzU.dpuf